Welsh Republic

Aneurin Bevan a’r NHS

Mae Aneurin (Nye) Bevan, sylfaenydd yr NHS, y gwasanaeth iechyd di-dal,  yn cael ei gyfrif fel un o wleidyddion pwysicaf a mwyaf dylanwadol yn hanes y mudiad Llafur. Yn 2004, rhyw 40 mlynedd ar ol iddo farw, cafodd ei ddewis yn gyntaf mewn pleidlais o 100 o awyr Cymru. Brwydrodd dros hawliau’r gweithwyr ac yn erbyn rhaniadau’r system dosbarth mewn cymdeithas.

Ganwyd Bevan yn Nhredegar ym 1897. Roedd ei deulu’n glowyr, yn gapelwyr ac yn ddigon arferol yng Nghymru’r cyfnod. Gadawodd yr ysgol yn 13 oed i weithio yn y pwll glo ond nes ymlaen cafodd y sac am ei weithgaredd gyda’i undeb llafur.
Roedd Bevan yn siaradwr radicalaidd grymus, heb ofn,  a chododd yn gyflym trwy rengoedd y Blaid Lafur. Ym 1929, cafodd ei ethol fel aelod seneddol Llafur dros Lyn Ebwy a daeth yn enwog am ei areithiau tanllyd yn erbyn Toriaidd ac yn aml arweinwyr ei blaid ei hun.
Ar ol yr ail ryfel byd roedd gan bobl gwledydd Prydain awydd i wneud i ffwrdd gydag anghyfiawnder a’r hen drefn a chreu byd gwell. Enillodd y Blaid Lafur mwyafrif mawr a bachwyd ar y cyfle i gyflwynio mesuriadau radicalaidd newydd. Cymerodd y llywodraeth reolaeth o’r pyllau glo ac fe aethwyd ati i sefydlu system lles newydd i amddiffyn pawb mewn cymdeithas.

Tad yr NHS

Fel Gweinidog Iechyd, Bevan fu’n gyfrifol am y gwaith wnaeth ei droi yn awyr – dechau’r Gwasanaeth Iechyd yr NHS, a’r system Yswiriant Gwladol, y system sydd dal mewn bodolaeth heddiw ac sydd wedi cael ei gopio mewn llawer iawn o wledydd y byd. Ymddiswyddodd Bevan o’r llywodraeth ym 1951 gan deimlo roedd yr NHS dan fygythiad wrth i gost presgripsiwn am bensiynwyr cael ei godi.

Arweinydd y radicaliaid

Roedd llawer o gefnogwyr Llafur eisiau mynd ymhellach i newid yr hen drefn gyda mwy o fesurau sosialaidd ac roedd  tipyn o anfodlonrwydd gyda safiad saff a nerfus arweinwyr y Blaid. Am gyfnod, fe ddaeth Bevan i fod yn brif lefarydd yr asgell chwith yn y Blaid.

Arweinydd y Blaid Lafur?

Yn 1956, cytunodd i ail-ymuno’r arweinyddiaeth y Blaid gan obeithio fod y brif arweinydd ei hun rhywbryd. Roedd y chwith wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn arfau niwclear, felly cawson nhw eu siomi gan Bevan pan newidiodd ei safwbwynt ac fe ddywedodd y dylai llywodraeth Llundain ddim cael gwared a’i bomiau. Ym 1959 enillodd lle  i fod yn Ddirprwy Arweinydd, ond roedd eisoes yn sâl, a bu farw y flwyddyn wedyn.

This post is also available in: English

Log in | Cynllunwyd gan Gabfire themes